The following is the text of an e-letter from trac, the folk development for Wales organisation. Further info on their website:
http://www.trac-cymru.org/experiment.html
the Big Experiment news / newyddion yr Arbrawf Mawr
From: Blanche <trac@trac-cymru.org>
There are still places left at the Big Experiment, trac’s long weekend of traditional music coming up at the end of October, but Early Bird prices finish at the end of September, so hurry for the best deal! Already all the single rooms have been booked but there are still shared rooms (twin rooms or for three/four) available from as little as £120 all-in.
This year’s special guest tutor is flautist and whistle-player Brian Finnegan of Flook, who’ll be taking the Advanced group; other tutors include Robin Huw Bowen, Robert Evans and Neil Browning for the instrumentalists, with Esyllt Harker and Mair Tomos Ifans taking care of the singers.
The afternoon workshops will include Dan KilBride on amplification for acoustic musicians, clogging with Huw Williams, and Robert Evans on " Wales and the Music of the Spheres - A Tour of the Medieval Universe and Its Sound World". Other workshops are awaiting confirmation; more details as we have them.
The evening events – a concert by our illustrious tutors on Friday night and a Noson Lawen on Saturday night - are open to the public. Each is followed by a session and costs £10.
The whole thing takes place in the fabulous new Field Studies Centre at Margam Park , with classrooms, refectory with real-ale bar, and en-suite accomodation all together on-site. Just a half-hour drive from Cardiff , twenty minutes from Swansea , we welcome non-residential participants, too, at a reduced fee. No car? It’s on the train line to Port Talbot and we’ll collect residents from the station.
The dates are 29 October to 1 November and you’ll find more details and a booking form at http://www.trac-cymru.org
If you’re already booked then we’re looking forward to seeing you – please forward this message to friends: the more, the merrier!
Helo bawb (ac esgusodwch os ydych wedi derbyn hyn o’r blaen)
Mae ‘na lefydd yn dal ar ôl ar Yr Arbrawf Mawr, penwythnos hir trac o gerddoriaeth draddodiadol a fydd yn cael ei gynnal ddiwedd mis Hydref, ond bydd y prisiau gostyngol yn dod i ben ddiwedd mis Medi, felly brysiwch os am gael y ddêl orau! Mae’r holl ystafelloedd sengl eisoes wedi’u harchebu ond mae ystafelloedd i’w rhannu (ystafelloedd i ddau, tri neu bedwar) dal ar gael am cyn lleied â £120.00, a hynny’n cynnwys popeth.
Eleni, ein tiwtor gwadd arbennig yw’r ffliwtydd a’r chwibanoglydd Brian Finnegan o Flook, a fydd yn hyfforddi’r grŵp Uwch; mae’r tiwtoriaid eraill yn cynnwys Robin Huw Bowen, Robert Evans a Neil Browning i edrych ar ôl yr offerynwyr, tra fydd Esyllt Harker a Mair Tomos Ifans yn cymryd gofal o’r cantorion.
Bydd gweithdai’r prynhawn yn cynnwys Dan KilBride yn sôn am seinchwyddo ar gyfer cerddorion acwstig, clocsio gyda Huw Williams, a Robert Evans yn ein tywys ar drywydd “Cymru a’r Gynghanedd Nefol – Taith drwy Fydysawd y Canol Oesoedd a’i Fyd o Sain”. Mae gweithdai eraill nad ydynt wedi eu cadarhau hyd yn hyn; cewch ragor o fanylion wrth i ni eu derbyn.
Bydd y gweithgareddau gyda’r nos – cyngerdd gan ein tiwtoriaid gwych ar y nos Wener a noson lawen ar y nos Sadwrn – yn agored i’r cyhoedd. Bydd sesiwn i ddilyn wedi’r ddau ddigwyddiad, tâl mynediad £10 yr un.
Cynhelir y cyfan yn y Ganolfan Astudiaethau Maes hyfryd, newydd sbon ym Mharc Margam, lle y cewch ystafelloedd dosbarth, ffreutur gyda bar cwrw-go-iawn, a llety en-suite, ar cyfan gyda’i gilydd ar yr un safle. Dim ond taith hanner awr yw hi o Gaerdydd, ac ugain munud o Abertawe. Mae croeso i gyfranogwyr di-breswyl hefyd, ac am ffi gostyngol. Heb gar? Mae’r Ganolfan heb fod ymhell o orsaf reilffordd Port Talbot , a gallwn gasglu preswylwyr o’r orsaf.
Hydref 29 tan Tachwedd 1 yw’r dyddiadau, a chewch wybodaeth bellach a ffurflen archebu trwy ymweld â http://www.trac-cymru.org
Os ydych chi wedi bwcio, rydyn edrych ymlaen at eich gweld chi – gyrwch y neges hon at eich ffrindiau: croeso i bawb!
Blanche Rowen
Administrator / Gweinyddydd
trac: Music Traditions Wales / Traddodiadau Cerdd Cymru
e-mail: trac@trac-cymru.org
http://www.trac-cymru.org
PO Box 428 , Cardiff / Caerdydd , CF11 1DP
(I have no personal involvment with this, BTW - can’t even afford to attend!)